eExodus 34:6 (gw. hefyd Numeri 14:18; Salm 86:15; 103:8; 145:8)

Joel 2

Yr ymosodiad

1Chwythwch y corn hwrdd
2:1 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
yn Seion;
Rhybuddiwch bobl o ben y mynydd cysegredig!
Dylai pawb sy'n byw yn y wlad grynu mewn ofn,
am fod dydd barn yr Arglwydd ar fin dod.
Ydy, mae'n agos!
2Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy;
diwrnod o gymylau duon bygythiol. b
Mae byddin enfawr yn dod dros y bryniau.
Does dim byd tebyg wedi digwydd erioed o'r blaen,
a welwn ni ddim byd tebyg byth eto.
3Mae fflamau tân o'u cwmpas,
yn dinistrio popeth sydd yn eu ffordd.
Mae'r wlad o'u blaenau yn ffrwythlon fel Gardd Eden,
ond tu ôl iddyn nhw mae fel anialwch diffaith.
Does dim posib dianc!
4Maen nhw'n edrych fel ceffylau,
ac yn carlamu fel meirch rhyfel.
5Maen nhw'n swnio fel cerbydau rhyfel
yn rhuthro dros y bryniau;
fel sŵn clecian fflamau'n llosgi bonion gwellt,
neu sŵn byddin enfawr yn paratoi i ymosod.
6Mae pobl yn gwingo mewn panig o'u blaenau;
mae wynebau pawb yn troi'n welw o ofn.
7Fel tyrfa o filwyr, maen nhw'n martsio
ac yn dringo i fyny'r waliau.
Maen nhw'n dod yn rhesi disgybledig
does dim un yn gadael y rhengoedd.
8Dŷn nhw ddim yn baglu ar draws ei gilydd;
mae pob un yn martsio'n syth yn ei flaen.
Dydy saethau a gwaywffyn
ddim yn gallu eu stopio.
9Maen nhw'n rhuthro i mewn i'r ddinas,
yn dringo dros y waliau,
ac i mewn i'r tai.
Maen nhw'n dringo i mewn
fel lladron drwy'r ffenestri.
10Mae fel petai'r ddaear yn crynu o'u blaenau,
a'r awyr yn chwyrlïo.
Mae'r haul a'r lleuad yn tywyllu,
a'r sêr yn diflannu.
11Mae llais yr Arglwydd yn taranu
wrth iddo arwain ei fyddin.
Mae eu niferoedd yn enfawr!
Maen nhw'n gwneud beth mae'n ei orchymyn.
Ydy, mae dydd yr Arglwydd yn ddiwrnod mawr;
mae'n ddychrynllyd! – Pa obaith sydd i unrhyw un? c

Duw yn gofyn i bobl newid eu ffyrdd

12Ond dyma neges yr Arglwydd:

“Dydy hi ddim yn rhy hwyr.
Trowch yn ôl ata i o ddifri.
Ewch heb fwyd. Trowch ata i yn eich dagrau,
a galaru am eich ymddygiad.
13Rhwygwch eich calonnau, d
yn lle dim ond rhwygo eich dillad.”
Trowch yn ôl at yr Arglwydd eich Duw!
Mae e mor garedig a thrugarog;
mor amyneddgar ac yn anhygoel o hael,
a ddim yn hoffi cosbi. e
14Pwy ŵyr? Falle y bydd e'n drugarog ac yn troi yn ôl.
Falle y bydd e'n dewis bendithio o hyn ymlaen!
Wedyn cewch gyflwyno offrwm o rawn
ac offrwm o ddiod i'r Arglwydd eich Duw!
15Chwythwch y corn hwrdd
2:15 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
yn Seion!
Trefnwch ddiwrnod pan fydd pawb yn peidio bwyta;
yn stopio gweithio, ac yn dod at ei gilydd i addoli Duw.
16Casglwch y bobl i gyd,
a paratoi pawb i ddod at ei gilydd i addoli.
Dewch a'r arweinwyr at ei gilydd.
Dewch a'r plant yno, a'r babis bach.
Dylai hyd yn oed y rhai sydd newydd briodi ddod g
does neb i gadw draw!
17Dylai'r offeiriaid, y rhai sy'n gwasanaethu'r Arglwydd,
wylo o'r cyntedd i'r allor,
a gweddïo fel hyn:
Arglwydd, wnei di faddau i dy bobl?
Paid gadael i'r wlad yma droi'n destun sbort.
Paid gadael i baganiaid ein llywodraethu ni!
Pam ddylai pobl y gwledydd gael dweud,
‘Felly, ble mae eu Duw nhw?’” h

Bydd yr Arglwydd yn bendithio'r wlad

18Wedyn dyma'r Arglwydd yn dangos ei sêl dros y wlad. Buodd yn drugarog at ei bobl. 19Dyma fe'n dweud wrth ei bobl:

“Edrychwch! Dw i'n mynd i'ch bendithio chi unwaith eto!
Dw i'n mynd i roi cnydau da i chi,
a digonedd o sudd grawnwin ac olew olewydd.
Bydd gynnoch chi fwy na digon!
Fyddwch chi ddim yn destun sbort
i'r gwledydd o'ch cwmpas chi.
20Bydda i'n gyrru'r un ddaeth o'r gogledd i ffwrdd,
ac yn ei wthio i dir sych a diffaith.
Bydd yr hanner blaen yn cael eu gyrru i'r Môr Marw yn y dwyrain,
a'r hanner ôl yn cael eu gyrru i Fôr y Canoldir yn y gorllewin.
Yno y byddan nhw'n pydru,
a bydd eu drewdod yn codi.”
Ydy, mae e'n gwneud pethau mor wych!
21Ti ddaear, paid bod ag ofn!
Gelli ddathlu a bod yn llawen,
am fod yr Arglwydd yn gwneud pethau mor wych!
22Anifeiliaid gwylltion, peidiwch bod ag ofn!
Mae glaswellt yn tyfu eto ar y tir pori,
ac mae ffrwythau'n tyfu ar y coed.
Mae'r coed ffigys a'r gwinwydd yn llawn ffrwyth.
23Dathlwch chithau, bobl Seion!
2:23 Seion Jerwsalem.

Mwynhewch beth mae Duw wedi ei wneud!
Mae wedi rhoi'r glaw cynnar i chi ar yr adeg iawn –
rhoi'r glaw cynnar yn yr hydref,
a'r glaw diweddar yn y gwanwyn, fel o'r blaen.
2:23 glaw cynnar … glaw diweddar Roedd y glaw cynnar yn dod yn Hydref/Tachwedd, a'r glaw diweddar yn Mawrth/Ebrill

24“Bydd y llawr dyrnu yn orlawn o ŷd,
a'r cafnau yn gorlifo o sudd grawnwin ac olew olewydd.
25Bydda i'n rhoi popeth wnaethoch chi ei golli
yn ôl i chi – popeth wnaeth y locustiaid
2:25 locustiaid gw. y nodyn ar 1:4.
ei fwyta;
y fyddin fawr wnes i ei hanfon yn eich erbyn chi.
26Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta.
Byddwch chi'n moli'r Arglwydd eich Duw,
sydd wedi gwneud pethau mor wych ar eich rhan chi.
Fydd fy mhobl byth eto'n cael eu cywilyddio.
27Israel, byddi'n gwybod fy mod i gyda ti,
ac mai fi ydy'r Arglwydd dy Dduw
– yr unig Dduw sy'n bod.
Fydd fy mhobl byth eto'n cael eu cywilyddio.”
2:27 Mae llawer o'r addewidion yn 2:19-27 yn cadarnhau addewidion Duw yn Deuteronomium 11:13-15 a Lefiticus 26:3,4

Yr Arglwydd yn tywallt ei Ysbryd

28“Ar ôl hynny, bydda i'n tywallt fy Ysbryd
ar y bobl i gyd.
Bydd eich meibion a'ch merched
yn proffwydo;
bydd dynion hŷn yn cael breuddwydion,
a dynion ifanc yn cael gweledigaethau.
29Bydda i hyd yn oed yn tywallt fy Ysbryd
ar y gweision a'r morynion.
2:29 gw. dyhead Moses yn Numeri 11:29

30Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd
yn yr awyr ac ar y ddaear –
gwaed a thân a cholofnau o fwg.
31Bydd yr haul yn troi'n dywyll,
a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed
cyn i'r diwrnod mawr a dychrynllyd yna ddod,
sef dydd barn yr Arglwydd.”
32Bydd pwy bynnag sy'n galw ar enw'r Arglwydd
yn cael ei achub.
Fel mae'r Arglwydd wedi addo:
“ar Fynydd Seion, sef Jerwsalem, bydd rhai yn dianc.” n
Bydd rhai o'r bobl yn goroesi –
pobl wedi eu galw gan yr Arglwydd.
Copyright information for CYM